Partneriaid Gwyddoniaeth Chwaraeon
Ni allwn greu cenedl o bencampwyr ar ein pen ein hunain felly
rydym ni wedi ffurfio partneriaethau gydag arbenigwyr y diwydiant i
helpu gyda chynnig rhywbeth ychwanegol i'n hathletwyr er mwyn iddyn
nhw allu disgleirio ar lwyfan y byd.
Gwasanaethau Meddygol
Mae Vale Healthcare yn falch o fod yn un o ddarparwyr
Gwasanaethau Meddygol swyddogol Athrofa Chwaraeon Cymru.
Mae Vale Healthcare, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd ac ym Mro
Morgannwg, yn ddarparwr gofal iechyd preifat ac mae ganddo
safleoedd ledled de Cymru, yn cynnwys Ysbyty'r Fro, Clinig Bae
Caerdydd a Chlinig y Fro (gwasanaethau ffisiotherapi a
therapi).
Maent yn arbenigo ar drin anafiadau chwaraeon a Llawdriniaethau
Orthopedig a Sbinol (cluniau, pengliniau, ysgwyddau, traed a
migyrnau, ac asgwrn y cefn) a hefyd maent yn darparu llu o glinigau
arbenigol a gwasanaethau llawfeddygol eraill, gan gynnwys
Meddygaeth Chwaraeon, Ffisiotherapi, Wroleg, Llawdriniaethau Colli
Pwysau a Llawdriniaethau Cosmetig.
Mae Vale Healthcare ar agor i bob claf, gan gynnwys y rhai gydag
yswiriant meddygol a chleifion sy'n talu eu hunain am wasanaethau.
Mae gan Vale Healthcare gytundebau gyda phob un o'r prif yswirwyr,
gan gynnwys BUPA, AXA PPP ac Aviva. Cysywlltwch â hwy drwy gyfrwng
www.vale-healthcare.com am unrhyw apwyntiadau
neu am ragor o wybodaeth.
Maeth
Er
Lles Ein Hiechyd

Gwyddoniaeth mewn Chwaraeon

Pro
Athlete Supplementation Cyf.
