Elite Cymru
Nod Elite Cymru yw darparu i'r athletwyr mwyaf addawol mewn
chwaraeon heb fod yn rhai Olympaidd na Pharalympaidd y gefnogaeth
maent ei hangen er mwyn cyflawni eu potensial.
Y gefnogaeth a ddarperir
Darperir i aelodau Elite Cymru:
Yr 1% o wahaniaeth a all arwain at
lwyddiant
Mae'n ofynnol i'r athletwyr fodloni'r safonau perfformio
lleiafswm cytunedig a benderfynir gan Chwaraeon Cymru a'r Corff
Rheoli Cenedlaethol.
Er mwyn derbyn cefnogaeth barhaus gan gynllun Elite Cymru, mae'n
rhaid i'r aelodau allu profi i Chwaraeon Cymru ac i'w corff rheoli
eu bod yn dal ati i wneud cynnydd.
Mae'r gwasanaethau cefnogi a gynigir yn rhoi i athletwyr Elite
Cymru'r cyfle gorau posibl i gyflawni eu nodau a helpu i wneud yr
1% o wahaniaeth a all arwain at lwyddiant.
Dull Cystadleuydd-Ganolog o Weithredu
Mae cynllun Elite Cymru'n mabwysiadu dull cystadleuydd-ganolog o
weithredu mewn perthynas â rhagoriaeth.
Seilir y gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth ar y syniad bod raid i'r
cystadleuydd weithredu mewn amgylchedd lle cydlynir y gefnogaeth ac
nid lle mae'n cael ei chyflwyno mewn dull ad-hoc, gwasgaredig.
Mae'r cystadleuydd yn ganolog yn y broses ac mae'n rhaid i'r
systemau a'r gwasanaethau cefnogi allu addasu a bod yn hygyrch er
mwyn cynorthwyo'r cystadleuydd i gyflawni ei botensial ef/hi.
Beth sy'n gymwys?
Darperir cefnogaeth ariannol ar gyfer costau teithio, llety,
hyfforddiant, offer a chostau eraill sy'n uniongyrchol gysylltiedig
â'r rhaglen gystadlu a hyfforddi. Mae'r gefnogaeth ariannol a
dderbynnir yn amrywio, gan ddibynnu ar amgylchiadau personol a
chost y rhaglenni cystadlu a hyfforddi.
Pwy sy'n gymwys?
Un dangosydd perfformiad allweddol (DPA) gennym ni a'r cyrff
rheoli cenedlaethol ar gyfer chwaraeon heb fod yn rhai
Olympaidd/Paralympaidd yng Nghymru yw nifer yr athletwyr yn llwyddo
ar lwyfan y Byd, Ewrop a'r Gymanwlad.
Gallwn ddarparu cefnogaeth ariannol i athletwyr sy'n cael eu
datgan gan CRhC Cymru fel rhai gyda photensial i fodloni'r safonau
hyn neu sydd wedi bodloni/rhagori ar y meini prawf perfformiad
lleiafswm sy'n cael eu gosod gan y CRhC unigol.
Sut i Wneud Cais?
Dylai'r cystadleuwyr gysylltu naill
ai â'u corff rheoli neu uned Élite Cymru ar (029) 2033 8237 i
holi a ydynt yn bodloni'r safonau perfformio lleiafswm.
A ydych yn cystadlu mewn camp Olympaidd neu Baralympaidd?
UK Sport sy'n gyfrifol am gyllido athletwyr elitaidd mewn
chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd. Cyllidir a chefnogir
athletwyr mewn chwaraeon Olympaidd/Paralympaidd gan UK Sport a
Chyrff Rheoli'r DG. fodd bynnag, mae Chwaraeon Cymru'n ystyried yr
athletwyr hyn o Gymru fel rhan o ethos a system Élite
Cymru.