Talent Cymru

Pam sefydlu Talent Cymru?

Sefydlwyd cynllun Talent Cymru er mwyn darparu i athletwyr Cymru bopeth maent ei angen er mwyn sicrhau mynediad i Lwybr Perfformio UK Sport (chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd) neu Élite Cymru (chwaraeon heb fod yn Olympaidd).

Rydym nid yn unig yn darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer athletwyr, ond hefyd rhaglenni o wasanaethau cefnogi, a gytunir ar y cyd gyda'r corff rheoli.

Llwyddiannus hyd yma

Hyd yma, mae mwy na 150 o athletwyr o 23 o wahanol gampau wedi derbyn cefnogaeth a chafwyd llwyddiannau niferus ar lefel PF, Ewrop a'r Byd.

Cefnogwyd enillydd medal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing, Simon Richardson (beicio), drwy gyfrwng Talent Cymru, cyn cael ei drosglwyddo i Lwybr y DG. Mae chwe nofiwr sydd wedi'u cefnogi gan y cynllun wedi symud i Lwybr y DG a bydd nifer fawr i athletwyr Talent Cymru'n cynrychioli Cymru yng Ngemau Cymanwlad 2010 yn Delhi.

Pwy sy'n gymwys?

Er mwyn i athletwyr gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad gan Talent Cymru, bydd raid iddynt fodloni/rhagori ar y meini prawf perfformio lleiafswm, cytunedig ar gyfer eu dewis gamp.

Un dangosydd perfformiad allweddol (DPA) ar gyfer Chwaraeon Cymru a CRhC y chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yng Nghymru yw nifer yr athletwyr a ddewisir ar gyfer Llwybr y DG ac a gefnogir/gyllidir gan UK Sport a CRhC y DG.

O ran chwaraeon heb fod yn rhai Olympaidd, mae'r DPA'ion pellach yn cynnwys medalau Byd, Ewropeaidd, Cymanwlad a Phrydeinig.

Beth sy'n gynwysedig?

Darperir cefnogaeth ariannol ar gyfer cystadlaethau ychwanegol cytunedig/hyfforddiant (yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan CRhC), offer a/neu deithio.

Sut i wneud cais

Dylai'r cystadleuwyr gysylltu â naill ai eu corff rheoli neu uned Élite Cymru ar (029) 2033 8237 i wneud ymholiadau ynghylch pa un ai ydynt yn bodloni'r safonau perfformio lleiafswm.

DOWNLOADS