Beth rydyn ni'n ei wneud /
Llawer iawn i fod yn falch ohono!
O ran llwyddiant chwaraeon elitaidd, mae gan Gymru lawer iawn i
fod yn falch ohono.
Rydyn ni'n gwneud yn well na'r disgwyl yn sicr. Mae ein
llwyddiannau ni yn 2008 yng Ngemau Olympaidd a
Pharalympaidd Beijing yn dangos hyn. Y rhain oedd y Gemau
Olympaidd mwyaf llwyddiannus i Gymru mewn 100 mlynedd, gan ennill
pum medal, a sicrhaodd athletwyr Cymru 24% o fedalau aur
Paralympiaid Prydain Fawr.
Bellach mae gennym ni gyfle unigryw i gyflawni ar y llwyfan
rhyngwladol, gyda dwy o'r cystadlaethau aml-chwaraeon mwyaf yn cael
eu cynnal yn y DU, Llundain 2012 a Glasgow
2014.
Mae Strategaeth Chwaraeon
Elitaidd 2010-16 gennym yn datgan llwybr uchelgeisiol a
heriol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
Rydyn ni, a hefyd ein partneriaid, yn credu y dylem ddal ati i'n
herio ein hunain, nid yn unig er mwyn cynnal ein llwyddiant ond
hefyd i adeiladu arno. Rydyn ni eisiau mesur ein llwyddiant nid dim
ond yn erbyn y gwledydd eraill yn y DU, ond ar lefel fyd-eang a dod
yn esiampl o sut mae datblygu a chynnal llwyddiant mewn chwaraeon
elitaidd.
Rydyn ni am i Gymru gael ei gweld fel cenedl o bencampwyr, ble
mae ennill yn cael ei ddisgwyl, talent yn cael ei datblygu a
llwyddiant yn cael ei hybu a'i ddathlu ledled ystod eang o
chwaraeon.
Ffocws 2014
Gyda Glasgow 2014 ar y gorwel ymhen 2 flynedd, rydym yn
cefnogi, yn cyllido ac yn cyflwyno gwasanaethau'r Athrofa i ddeg
camp elitaidd yng Nghymru, er mwyn ennill medalau yn y cylch
Cymanwlad presennol a goruchwylio'r paratoadau ar gyfer y
nesaf.
Rydyn ni hefyd yn darparu cefnogaeth i unrhyw athletwyr o Gymru
ar raglenni sy'n gallu sicrhau eu bod yn ennill medalau Olympaidd,
Paralympaidd neu Gymanwlad yn y cylch presennol ar eu cais.
Pa gefnogaeth ydyn ni'n ei darparu?
Mae ein tîm hynod fedrus yn darparu cefnogaeth a chyngor i
athletwyr Cymru mewn 3 phrif faes: