Cefnogaeth Gwyddoniaeth Chwaraeon /

Mae ein tîm Gwyddoniaeth Chwaraeon hynod fedrus a phrofiadol ni'n darparu i athletwyr ar gynlluniau Elite Cymru a Talent Cymru gefnogaeth sy'n cynnwys yr holl ddisgyblaethau gwyddonol, gyda phob un yn canolbwyntio ar wella perfformiad yr athletwr.       

Ffisioleg

Mae cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon ffisiolegol yn cynnwys strategaethau i sicrhau'r perfformiad gorau posib ar adegau penodol yn ystod y cylch ymarfer.

Gellir cynnal profion ffitrwydd naill ai yn y labordy gwyddoniaeth chwaraeon neu ar y cae, yn ôl anghenion y gamp.                 

Gellir rhagnodi ymarferion ar y cyd â hyfforddwyr a thrwy fonitro yn rheolaidd ymateb y corff i raglenni ymarfer a chystadlaethau.                                              

Mae monitro'n cynnwys adborth goddrychol gan yr athletwr a hefyd monitro amrywiaethau o samplau gwaed ac iwrin mewn labordy gwyddoniaeth chwaraeon.

Mae ymyriadau ychwanegol yn ceisio gwella gallu'r corff i ymdopi â hinsawdd anodd, altitiwd a theithio'n bell.                         

Seicoleg  

Mae'r ddisgyblaeth hon yn ymddiddori mewn ystyried y ffactorau meddyliol sy'n gallu effeithio ar berfformiad. Mae ein seicolegwyr chwaraeon yn gallu helpu i wella perfformiadau wrth ymarfer a chystadlu drwy ddatblygu'r canlynol:                          

  • Canolbwyntio 
  • Cymhelliant
  • Hyder      
  • Y gallu i ymdopi â gelyniaeth 
  • Rheolaeth emosiynol

Ymhlith y sgiliau a ddysgir fel rheol mae:

  • Ymlacio   
  • Delweddaeth
  • Paratoi i gystadlu     
  • Adolygu trefn ymarfer a pherfformiad
  • Gosod nodau
  • Y gallu i ganolbwyntio
  • Rheoli hunan siarad

Hefyd, mae ein seicolegwyr chwaraeon yn gallu helpu gyda gwneud penderfyniadau, pontio gyrfaoedd a chyfathrebu. Mae ein seicolegwyr chwaraeon yn gweithio mewn ffyrdd amrywiol er mwyn datblygu'r sgiliau uchod, gan gynnwys addysg seiliedig ar weithdai, ymgynghoriadau unigol, gweithio gyda hyfforddwyr ac arsylwi ymarfer a chystadlu da.                      

BiomecanegStrength and Conditioning

Mae biomecaneg yn cynnwys dadansoddi symudiadau a thechnegau dynol. O ran gwella perfformiad, mae dadansoddi eich techneg a'ch cystadleuaeth yn hanfodol oherwydd gall fod o gymorth i ganfod gwendidau, atal anafiadau a gwella effeithlonrwydd symudiadau chwaraeon benodol.              

Cryfder a Siapio

Yn bennaf, mae cryfder a siapio'n canolbwyntio ar y ddwy elfen ganlynol:

  • Gwella Perfformiad - drwy ddatblygu cryfder y cyhyrau, dygnedd cryfder, pŵer (cyflymdra ac ystwythder) a symudiadau chwaraeon benodol (swyddogaethol).               
  • Atal Anafiadau - drwy hyfforddiant ystum, sefydlogrwydd, cryfhau craidd ac asesiadau seiliedig ar symudiad (cysylltiedig â chwaraeon).        

Gellir gweithredu'r ddwy ffactor yma ar y cyd â hyfforddwyr a staff gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon eraill i sicrhau trefn ymarfer gyfannol.

Maeth

Mae ein maethegwyr chwaraeon yn gallu cynghori ynghylch beth ddylid ei fwyta a'i yfed i wella perfformiad. Gellir cael cyngor cyffredinol am faeth wrth ymarfer a chystadlu yn ychwanegol at gyngor penodol am ofynion maeth dyddiol i ddiwallu eich anghenion ymarfer a chystadlu unigol. 

Gellir cael cyngor hefyd ynghylch ennill neu golli pwysau a hefyd sicrhau eich bod chi'n cyrraedd y pwysau priodol ar gyfer chwaraeon categori pwysau.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi llunio partneriaeth gyda 3 phartner maeth chwaraeon sydd wedi dod yn hoff ddarparwyr cynnhyrchion maeth perfformiad gan Athrofa Chwaraeon Cymru:

For Goodness Shake

For Goodness Shake

Science in Sport

SIS

Pro Athlete Supplementation Ltd

PAS

Dadansoddi Perfformiad            

Mae dadansoddi perfformiad yn defnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol a thechnoleg fideo i asesu perfformiad.

Mae ffactorau fel tactegau, technegau, symudiad a chyfradd gweithio wrth ymarfer a chystadlu'n gallu cael eu hasesu. Mae hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr i'r hyfforddwr, sy'n ei alluogi i addasu'r hyfforddiant a'r tactegau i sicrhau'r siawns orau o lwyddo.