Mae'r Brif Neuadd wedi cynnal digwyddiadau rhyngwladol niferus dros y blynyddoedd, o Gemau Ysgolion y Dg i wersylloedd ymarfer rhyngwladol.
Mae'r neuadd maint 10 cwrt badminton yn eithriadol hyblyg ac yn gallu cynnig lleoliad i chwaraeon yn amrywio o gymnasteg rhyngwladol i fadminton achlysurol. Gyda seddi ar godiad, sy'n dod o'u lle os oes angen, ond yn rhoi lle i 900 o wylwyr, mae'n ddigon mawr i gynnal y rhan fwyaf o ddigwyddiadau.
Dimensiynau: 36.5m x 35.0m x 10.0m.
Llawr: Sbring llawn
Yn dal: 120
Mae Neuadd Jubilee yn neuadd hyblyg maint 4 cwrt badminton sy'n gallu rhoi lle i amrywiaeth eang o chwaraeon.
Dimensiynau: 35.6m x 17.5m x 6.6m
Llawr: Lled-sbring
Yn dal: 200
Defnyddir yr Uwch-Neuadd yn rheolaidd gan Gymdeithas Tenis bwrdd Cymru a Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru. Er hynny, gall gynnig lleoliad i amrywiaeth eang o chwaraeon fel pistol aer a saethyddiaeth. Nid yw'r neuadd yn addas ar gyfer chwaraeon pêl na raced.
Dimensiynau: 33.2m x 14.5m x 3.8m
Safle aml-ddefnydd delfrydol ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon ymladd a chwaraeon raced neu chwaraeon eraill nad oes angen defnyddio pêl i'w chwarae.
Dimensiynau: 15.3m x 11.8m x 2.7m
Llawr: Sbring Llawn
Yn dal: 60
Neuadd aml-ddefnydd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd a bocsio. Mae ei hyblygrwydd yn galluogi i nifer o chwaraeon eraill gael eu chwarae ynddi, fel tenis bwrdd, boccia a ffensio.
Dimensiynau: 15.15m x 15.02m x 3.4m
Yn gallu dal: 100
Mae'r dojo yma a adeiladwyd yn bwrpasol a gyda system awyru effeithiol yn gartref i Gymdeithasau Jiwdo a Reslo Cymru. Gyda'r matiau'n cynnig arwynebedd o 27m x 14m, ceir yma 2 fat cystadlu ar gyfer jiwdo a mat reslo.
Darperir cymhorthion ymarfer fel rhaffau a wal ddringo yn y dojo, ynghyd â safle i wylwyr.
Dimensiynau: 30.0m x 18.0m x 3.5m
Yn dal: 160
Mae'r cyfleuster hwn a adeiladwyd yn bwrpasol yn gartref i sgwad merched Gymnasteg Cymru ac yn cynnwys amrywiaeth llawn o offer cystadlu a hyfforddi.
Dimensiynau: 35.6m x 14.5m x 5.8m
Yn dal: 100
Y ganolfan yw cartref Sboncen Cymru ac mae ganddi 4 cwrt sboncen, gyda 2 ohonynt yn rhai cefn gwydr ar gyfer arddangos a seddi i 200 o wylwyr.
Mae ein campfa 30 gorsaf gyda system awyru a safle cynhesu ac oeri'n darparu amrywiaeth eang o offer, yn cynnwys:
Mae'n rhaid i chi ddod yn aelod a chael cyflwyniad er mwyn defnyddio'r cyfleusterau hyn.
Mae'r cyflwyniadau ar gael ar nosweithiau Mercher rhwng 6.00pm a 7.00pm a boreau Sul rhwng 11.00am a hanner dydd.
I wneud ymholiadau am ymaelodi, cysylltwch ag adran Gwasanaethau'r Cwsmer ar:
0845 045 0902
neu anfonwch e-bost i:
nationalcentre@sportwales.org.uk
neu beth am ymweld â staff cyfeillgar y Dderbynfa'n bersonol.
Mae ein campfa 20 gorsaf gyda system awyru a safle cynhesu ac oeri'n darparu amrywiaeth o bwysau rhydd a dau lwyfan codi.
Mae'r Ganolfan hon yn gartref i Undeb Hoci Cymru ac mae ganddi gae artiffisial sylfaen dŵr gyda llifoleuadau yn bodloni safonau'r Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol.
Mae wedi'i defnyddio gan Hoci PF ar gyfer penwythnosau dethol a chynhelir sawl gornest Ryngwladol ynddi. Mae ganddi seddi ar gyfer 500 o wylwyr. Mae hefyd yn cael ei defnyddio gan glybiau ar gyfer hyfforddiant a gemau.
Defnyddir y cae hefyd ar gyfer pêl droed a lacrosse.
Mae gan y ganolfan 2 gae glaswellt, gydag un ohonynt yn cael ei ddefnyddio gan yr Ymddiriedolaeth Bêl Droed ar gyfer hyfforddiant y sgwad iau cyn gemau rhyngwladol. Mae'r cae'n elwa o gyfleusterau allanol fel cysgodfan ar y llinell ochr ac ystafell ffisiotherapi.
Mae ail gae glaswellt ar gael ac mae'n addas ar gyfer rygbi, pêl droed a lacrosse.
Mae'r safle chwarae aml-ddefnydd pob tywydd hwn yn ddelfrydol ar gyfer pêl droed 5-bob-ochr, pêl rwyd (2 gwrt) a thenis (3 chwrt).
Dimensiynau: 47.3m x 34.5m
I holi neu archebu unrhyw un o'n cyfleusterau, cysylltwch ag adran Gwasanaethau'r Cwsmer ar:
neu anfonuch e-bost i: