Ar ôl dioddef o anaf difrifol yn chwarae rygbi, datblygodd Dave
Rowe ddiddordeb mewn meddygaeth chwaraeon ac adfer, yn y gobaith y
byddai modd llenwi'r bwlch a oedd wedi'i adael gan y diwedd cyn ei
amser i'w yrfa chwaraeon drwy weithio i helpu athletwyr
eraill.
Mae Dave, sy'n Gydlynydd Tylino Chwaraeon preswyl yn Athrofa
Chwaraeon Cymru, wedi cymhwyso gyda diploma RSA mewn Therapi Tylino
Chwaraeon ers 1994.
Wrth siarad am ei swydd, dywedodd Dave:
"Rydw i wedi bod yn ffodus i gael gweithio gyda rhai o oreuon y
byd chwaraeon yng Nghymru ers i mi ddechrau arni yn 1994. O
athletau, ble rydw i wedi gweithio ym Mhencampwriaethau Athletau'r
Byd, a marathon a hanner marathon Caerdydd, i sgwad rygbi hŷn
Cymru."
Wedi gweithio hefyd gyda thimau pêl droed yr Uwch Gynghrair a'r
Bencampwriaeth, Fulham, Dinas Caerdydd a West Ham, mae Dave wedi
bod yn Dylinwr Chwaraeon i sgwad pêl droed hŷn Cymru, gan weithio
mewn mwy na 100 o gemau a theithio'n helaeth ledled Ewrop a thu
hwnt.
Yn gryno, pwrpas rôl Dave yw gwella potensial perfformio drwy
ddefnyddio tylino nid yn unig fel rhan o raglen adfer ond hefyd fel
rhan o baratoadau athletwyr, y cadw cyflwr a hefyd i atal
anafiadau.
Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda sêr chwaraeon presennol ac
addawol Cymru, gan gynnwys Helen Jenkins, Brett Morse, David Davies
a Georgia Davies i enwi dim ond rhai, a gyda'r rhan fwyaf o
chwaraeon, gan gynnwys athletau, nofio, jiwdo, gymnasteg, bocsio,
chwaraeon anabledd, saethu a
beicio.