Mae'r meddyg ymgynghorol gyda Chwaraeon Cymru, Dr Mark
Ridgewell, wedi bod yn ymarfer ers 1986 ac mae ganddo gefndir mewn
meddygaeth chwaraeon sy'n cynnwys cyfuniad unigryw o chwaraeon.
O athletau, nofio, beicio, chwaraeon anabledd, gymnasteg a
saethu, mae Dr Ridgewell yn darparu cefnogaeth feddygol i rai o'r
athletwyr mwyaf uchel eu proffil yng Nghymru, gan gynnwys Jazz
Carlin, Becky James, Nathan Stephens a David Davies.
Dywed Dr Ridgewell;
"Rydw i'n asesu ac yn cynghori athletwyr ynghylch ystod eang o
anafiadau a salwch a allai gael effaith ar eu gallu i hyfforddi a
pherfformio. Rydw i'n cynghori ynghylch triniaeth a rhaglen adfer,
yn rhoi cyngor gwrth-gyffuriau a chefnogaeth gyffredinol."
Ar ôl datblygu diddordeb mewn Meddygaeth Chwaraeon ac ar unwaith
bron ar ôl cymhwyso fel meddyg yn 1986, aeth Mark yn ei flaen yn
fuan iawn i gwblhau gradd Meistr mewn Chwaraeon a Meddygaeth
Ymarfer ym Mhrifysgol Caerfaddon a hefyd llwyddodd i ennill Diploma
Colegau Brenhinol yr Alban yn 1999. Mae wedi bod yn gweithio gyda
pherfformiadau elitaidd a pherfformiad uchel byth ers
hynny.
Mae ei CV yn cynnwys swyddi gyda Chlwb Rygbi Abertawe a thimau
rygbi Cymru D18 a D21, Prif Swyddog Meddygol gyda Bwrdd Criced
Lloegr, y Gweilch a Chymdeithas Bêl Droed Cymru ac mae Dr Ridgewell
hefyd wedi teithio i'r Gemau Cymanwlad ddwywaith fel Meddyg Tîm
gyda Thîm
Cymru.
Un o'r athletwyr y mae Dr Ridgewell yn gweithio â hi yn
rheolaidd yw'r ferch sydd wedi ennill medal efydd yn y Gymanwlad,
Georgia Davies. Dywedodd;
"Mae pawb sy'n cystadlu ar lefel uchel eisiau gwneud yn siŵr eu
bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wella. Wrth nofio, mae'r
100fed a'r 10fed o eiliad yn gallu bod yn hollbwysig felly os ydi
rhywun yn gallu gwneud unrhyw beth i wella fy mherfformiad i yna
rydw i'n fwy na pharod i dderbyn
hynny.
"Rydyn ni wir yn ffodus o gael Mark yn feddyg i ni. Rydyn ni'n
gweithio ar fesurau atal gan fod nofio yn gamp heb gyswllt, felly
mae'n ymwneud mwy â bod yn sâl na chael anaf, yn enwedig gan ein
bod ni'n hyfforddi ar lefel mor uchel ac am gymaint o amser bob
dydd. Rydyn ni'n cymryd fitaminau ac ategolion ac mae'n grêt am
argymell popeth. A hefyd rydyn ni'n cael profion gwaed i wneud yn
siŵr bod lefel ein haearn ni'n iawn, felly mae'n grêt cael rhywun
sy'n deall chwaraeon a meddygaeth wrth gwrs, ac yn gallu cyfuno'r
ddau."
Mae pump aelod o staff o Athrofa Chwaraeon Cymru'n cael eu dilyn
gan BBC Radio Wales i weld y gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni
yn ystod y cyfnod yn arwain at Gemau Llundain 2012.
Mae rhagor o wybodaeth am Mark Ridgewell a'r gwaith mae'n ei
wneud gyda Georgia Davies ac athletwyr eraill i'w gweld yma; mae eu
cyfweliad 2 awr 50 munud i mewn i'r
rhaglen.