Graham Taylor /

Graham Taylor

Rôl

Aelod o Fwrdd Ffocws 2014

Bywgraffiad

 

Gyda 22 o flynyddoedd o brofiad mewn chwaraeon modur ar lefel uchel, mae Graham wedi cystadlu ym mhob cwr o'r byd ac wedi cael ei gydnabod fel Peiriannydd Rasio ac Arweinydd Tîm talentog wrth ymyl y trac.

Mae ganddo 6 blynedd o brofiad o F1 a 5 mlynedd o brofiad ar lefel Byd a Phrydain  mewn Ceir Taith, ac roedd hefyd yn gysylltiedig â ras 24 awr Le Mans a ras 24 awr Daytona.                

Roedd hefyd yn Rheolwr Tîm gyda Formula Vauxhall rhwng 1990 a 1995, tîm Audi ym Mhencampwriaethau Ceir Taith Prydain yn 1996 ac yn Uwch Beiriannydd Ras i dîm Volvo ym Mhencampwriaethau Ceir Taith Prydain rhwng 1997 ac 1999.

Rhwng 2000 a 2002, roedd yn Brif Beiriannydd Ras i dîm F1 yr Arrows ac yna symudodd at Champcar yn UDA am dymor cyn dod yn Beiriannydd Ras i Audi yn ras 24 awr Le Mans yn 2004.

Yn 2005, roedd yn Beiriannydd Ras Ymgynghorol i SEAT, Audi ac A1GP a rhwng 2006 a 2008 roedd yn Gyfarwyddwr Chwaraeon tîm F1 Super Aguri. Yn 2009 ef oedd Pennaeth y Tîm i a1 GP Tîm Monaco ac ym mis Mawrth 2010 symudodd i dderbyn ei swydd bresennol fel Pennaeth Hyfforddi gydag UK Sport.

Mae Graham yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff rheoli cenedlaethol er mwyn cynllunio, gweithredu a monitro'r gwaith o gyflwyno mentrau datblygu hyfforddwyr yn y campau Olympaidd a Pharalympaidd.