Yn ystod trydedd blwyddyn Laura yn astudio chwaraeon a
gwyddoniaeth ymarfer ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, gwnaeth
gais am interniaeth ffisioleg yn Chwaraeon Cymru. Yn ystod ei
diwrnod cyntaf yn y swydd, cafodd fedydd tân mewn gwersyll ymarfer
rhwyfo Dan 23 gan Brydain
Fawr:
"Rydw i wrth fy modd gyda'r bwrlwm o weithio mewn amgylchedd
perfformiad uchel yn helpu'r athletwyr i fod y gorau y gallan' nhw.
Fe weithiais i gyda nifer o chwaraeon yn ystod fy interniaeth i,
gan gynnwys Rhwyfo Cymru, Beicio Cymru a Saethu
Cymru."
Unwaith cafodd Laura radd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd, fe'i
penodwyd yn ffisiolegydd llawn amser yn Chwaraeon Cymru. Ei gwaith
yw sicrhau'r perfformiadau gorau posibl drwy ddefnyddio nifer o
fethodolegau i sicrhau bod yr hyfforddiant a gyflwynir yn
briodol.
Mae hi'n monitro'r hyfforddiant i sicrhau bod y system egni
briodol yn cael ei thargedu i wneud yn siŵr bod y corff yn addasu
i'r hyfforddiant. Er mwyn sicrhau bod y corff yn addasu ac yn
gwella, mae hi'n perfformio asesiadau ffisiolegol rheolaidd er mwyn
monitro
cynnydd.
"Hefyd," eglura Laura, "gall ffisioleg ddarparu gwahanol fathau
o ysgogiadau i sicrhau gwelliannau mewn perfformiadau, er
enghraifft, hyfforddiant altitiwd. Mae ffisioleg hefyd yn helpu ein
hathletwyr i baratoi ar gyfer cystadlu, er enghraifft,
strategaethau cynhesu ac adfer priodol a chynefino â hinsawdd mewn
tywydd eithafol."
Ar hyn o bryd, mae gwaith Laura yn canolbwyntio'n bennaf ar
Focsio Cymru, Beicio Sbrint Cymru, Bowlio Cymru a Rhwyfo Cymru. Mae
hi wedi gweithio gyda thîm rhwyfo Dan 23 PF mewn dau wersyll yn
Chwaraeon Cymru ac mae'n helpu yn Athrofa Chwaraeon Lloegr yn
Bisham Abbey yn ystod y paratoadau Olympaidd a Pharalympaidd
prysur.
Mae hi hefyd yn astudio am radd Meistr mewn chwaraeon a
gwyddoniaeth ymarfer ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.