Y morwr sy'n gyn-Bencampwr Byd, Mark Nicholls, yw Prif Reolwr
Ffocws 2014 yn Chwaraeon Cymru, sy'n rhan o'r tîm rheoli sy'n
cyfeirio arian i chwaraeon ac athletwyr sy'n gallu cyflwyno medalau
i
Gymru.
Mae Mark yn y swydd ers mis Mehefin 2011 a daw o gefndir o 12
mlynedd gyda Hwylio Prydain. Cystadlodd ei hun ond bu'n gweithio
hefyd gyda rhaglenni llwyddiannus Hwylio PF a gipiodd fedalau aur
yn y Gemau Olympaidd yn 2004 a 2008, fel hyfforddwr rhaglen.
Dywed Mark;
"Rydym yn canolbwyntio ein cefnogaeth ar y chwaraeon, yr
athletwyr a'r hyfforddwyr sydd â'r cyfle mwyaf i ennill medalau yng
Ngemau Cymanwlad Glasgow 2014, ac unrhyw athletwyr a/neu
hyfforddwyr o Gymru sydd y tu allan i'r deg camp yn y Strategaeth
Chwaraeon Elitaidd sy'n gallu ennill medalau Olympaidd yn y cylch
presennol ac sydd angen cefnogaeth."
Hefyd mae Mark yn rheolwr ar y cyd ar staff ac ymarferwyr
Chwaraeon Cymru sy'n cyflwyno gwasanaethau i athletwyr elitaidd,
fel ffisiotherapi, maeth perfformiad a chryfder a siapio i enwi dim
ond rhai.