Mae Matt wedi bod yn gweithio yn Chwaraeon Cymru ers tair
blynedd yn cyflwyno hyfforddiant cryfder a siapio i gefnogi
athletwyr Cymanwlad, Olympaidd a Pharalympaidd.
Ei rôl yw paratoi'r athletwyr yn gorfforol ar gyfer gofynion
penodol eu
camp.
Ar ôl ennill gradd BSc (Anrh) mewn Chwaraeon a Gwyddoniaeth
Ymarfer o Brifysgol Exeter, dechreuodd yr hyfforddwr cryfder a
siapio sydd wedi'i achredu gan UKSCA weithio ym maes cryfder a
siapio yn 2004, gan ddarparu cefnogaeth i dimau chwaraeon Prifysgol
Exeter a'r ganolfan denis perfformiad
uchel.
Yn 2007, symudodd i Gaerdydd i astudio am radd Meistr mewn
Gwyddoniaeth Hyfforddi, ble gweithiodd gyda sgwadiau athletau a
thenis
APCC.
Dechreuodd Matt weithio yn Chwaraeon Cymru ar ddechrau 2008, gan
gyflwyno cefnogaeth cryfder a siapio i ddisgyblaethau chwaraeon
amrywiol, gan gynnwys badminton, hwylio, tenis bwrdd, athletau,
jiwdo, tenis, beicio sbrint, bobsled a disgyblaethau
Paralympaidd.
Ei brif faes arbenigol yw datblygu cryfder a phŵer a'i brif
ddiddordebau yw diagnosis cryfder a phŵer, datblygu athletwyr yn y
tymor hir a'r cylch byrhau
ymestyn.