Mae Owen wedi gweithio fel Ymgynghorydd Perfformiad Uchel ers
2011 - cyn hynny, roedd yn swyddog datblygu gyda Chwaraeon Cymru a
dywed bod chwaraeon wedi bod yn rhan allweddol o'i fywyd
erioed:
"Rydw i wedi bod yn gysylltiedig â chwaraeon erioed. Drwy
chwarae, hyfforddi ac astudio, mae wastad wedi bod yn brif elfen o
fy mywyd i yn tyfu i fyny, fy addysg, fy nghyfnod yn y coleg a
'mywyd proffesiynol i."
Yn chwaraewr rygbi brwd, mae wedi chwarae yng nghynghreiriau
cenedlaethol Cymru a Lloegr ac mae wedi treulio amser yn chwarae yn
Ne Affica a'r Unol Daleithiau.
Astudiodd wyddoniaeth chwaraeon a ffisioleg ym Mhrifysgol
Caerfaddon - gan weithio yn ystod blynyddoedd cynnar rhaglen Tîm
Caerfaddon. Cyn ymuno â Chwaraeon Cymru, gwnaeth Owen waith
ffisioleg hefyd ym Mhrifysgol Talaith Penn.
Dywed Owen mai'r "cynllunio" sy'n allweddol yn ei rôl:
"Gan weithio'n agos gyda'r cyfarwyddwyr a'r hyfforddwyr
perfformiad yn y cyrff rheoli, rydyn ni'n trosi ein dealltwriaeth
gadarn o anghenion yr athletwyr elitaidd mewn disgyblaeth neu gamp
arbennig yn gynllun sy'n gwneud yn siŵr bod popeth y mae arnynt ei
angen ar gael iddyn nhw'n hwylus ar yr amser
priodol.
"Yn nes i lawr y system, mae'n ymwneud â sicrhau bod
gweithdrefnau a strwythurau yn eu lle sy'n rhoi'r cyfle gorau
posibl i athletwyr ifanc talentog gyflawni eu potensial a chyrraedd
safon byd. Ond hefyd mae'n ymwneud â helpu ac annog pobl i wneud
penderfyniadau anodd. Mae chwaraeon elitaidd yn ymwneud â bod a
photensial i fod yn ddigon da neu ddim, a pha un ai ydych chi'n
debygol o gyflawni'r potensial hwnnw."
Mae prif ffocws Owen ar athletau, nofio, saethu, jiwdo a chodi
pwysau.