Sarah Powell /

Sarah  Powell

Rôl

Aelod o Fwrdd Ffocws 2014 a Chyfarwyddwr Corfforedig Chwaraeon Cymru

Bywgraffiad

Arferai Sarah chwarae hoci rhyngwladol ac enillodd fwy na 70 o gapiau yn chwarae i Gymru. Hefyd, cynrychiolodd Gymru yng Ngemau Cymanwlad 1998. Mae hi hefyd yn gyn-hyfforddwr De Cymru a Chymru Dan 18 oed.

Tan 2010, roedd yn Gyfarwyddwr Cwpan Ryder Cymru ac mae'n aelod ymgynghorol o Gyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru.

Mae Sarah yn Gyfarwyddwr Corfforedig yn Chwaraeon Cymru, gyda phwyslais ar berfformiad a rhagoriaeth ac, ar hyn o bryd, mae'n Gadeirydd Grŵp 'Tasg a Gorffen' SportsCoach UK ar Ragoriaeth Hyfforddi.