Mae Vanessa wedi bod yn gweithio yn Athrofa Chwaraeon Cymru ers
2003 ar ôl cwblhau gradd BSc (Anrh) mewn Bioleg Dynol ac
Ymarfer ym Mhrifysgol Oxford Brookes.
Dechreuodd gyrfa Vanessa fel Technegydd Labordy a
gwnaeth MSc mewn Chwaraeon a Gwyddoniaeth Ymarfer ar yr un
pryd yn APCC. Aeth ymlaen wedyn i gwblhau Profiad
Goruchwyliol BASES cyn dod yn ffisiolegydd
achrededig.
Nawr mae Vanessa yn Ffisiolegydd a Gwyddonydd Talent yn
Chwaraeon Cymru ac mae wedi gweithio gyda rhai o athletwyr mwyaf
llwyddiannus Cymru. Yn 2006, gweithiodd fel Ffisiolegydd i Dîm
Cymru yng Ngemau Cymanwlad Melbourne ble sefydlodd labordy i
fonitro gwaed a hefyd cynnal sesiynau monitro hydradiad ac adfer.
Yna aeth ymlaen i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o baratoi'r
athletwyr ar gyfer Gemau Cymanwlad Delhi 2010, gan gynghori
athletwyr ynghylch cynefino â hinsawdd, oeri a blinder ar ôl
teithio a gweithiodd gyda Nofio Prydain yn eu gwersyll ymarfer yn
Doha.
Yn gweithio gydag athletau, beicio a nofio yn bennaf, mae rôl
Vanessa yn galw am ddatblygu strategaethau i sicrhau perfformiad
optimwm ar adegau penodol drwy gydol cylch hyfforddi'r athletwyr, o
brofion ffitrwydd, naill ai mewn labordy gwyddoniaeth chwaraeon neu
allan yn y cae, i fonitro ymateb y corff i raglenni hyfforddi a
chystadlaethau yn
rheolaidd.