Ein Polisi Cwcis
Sut rydym yn defnyddio cwcis
Mae'r polisi hwn yn helpu i egluro'r achlysuron pryd, ble a pham
bydd cwcis yn cael eu hanfon i'ch cyfrifiadur efallai wrth i chi
fynd i wefan Chwaraeon Cymru a sut gallwch chi rwystro a/neu ddileu
cwcis. Drwy ddefnyddio ein safle ni rydych yn caniatáu i gwcis gael
eu defnyddio yn unol â'n polisi ni, fel y cyflwynir isod.
Beth yw cwci?
Ffeil testun yw cwci sy'n cynnwys ychydig iawn o wybodaeth ac
mae'n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn mynd i
wefan. Mae cwcis yn cael eu defnyddio'n eang er mwyn gwneud i wefan
weithio'n fwy effeithlon, ac i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y
safle.
Mae cwcis yn galluogi i'r wefan gofio gwybodaeth bwysig a fydd
yn gwneud eich defnydd chi o'r safle'n fwy hwylus.
Yn nodweddiadol, mae cwci o'n safle ni'n cynnwys enw ein parth
(naill ai sportwales.org.uk neu plus.sportwales.org.uk), "oes" y
cwci ac yna, o bosib, rhif a gynhyrchir ar hap neu werth arall. Fel
y rhan fwyaf o wefannau, rydym yn defnyddio gwahanol gategorïau o
gwcis at ddibenion amrywiol er mwyn gwella eich profiad
ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, ewch i wefan swyddogol ICO
yn www.ico.gov.uk, neu www.whatarecookies.com
Beth yw'r categorïau o gwcis?
Gellir gosod cwcis mewn pedwar prif gategori, gan gadw at
ganllawiau'r Siambr Fasnach Ryngwladol, fel a
ganlyn:
Categori 1: Cwcis cwbl angenrheidiol
Mae'r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn i chi allu symud o amgylch y
wefan a defnyddio ei nodweddion, fel mynd i rannau diogel o'r
wefan.
Categori 2: Cwcis perfformiad
Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn
defnyddio gwefan, er enghraifft, i ba dudalennau mae'r ymwelwyr yn
mynd amlaf ac, os ydyn nhw'n cael negeseuon camgymeriad o
dudalennau ar y we. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth sy'n
datgelu pwy yw'r ymwelwyr. Mae'r holl wybodaeth sy'n cael ei
chasglu gan y cwcis hyn yn cael ei rhoi at ei gilydd ac felly mae'n
ddienw. Dim ond er mwyn gwella dull y wefan o weithio mae'r rhain
yn cael eu defnyddio.
Categori 3: Cwcis swyddogaethol
Mae'r cwcis hyn yn galluogi i'r wefan gofio'r dewisiadau rydych
chi'n eu gwneud (fel enw defnyddiwr, ac ati) ac yn darparu
nodweddion gwell, mwy personol. Gall yr wybodaeth y mae'r cwcis hyn
yn ei chasglu fod yn ddienw ac ni allant dracio eich gweithgarwch
pori mewn gwefannau eraill.
Categori 4: Cwcis targedu/hysbysebu
Defnyddir y cwcis hyn i gyflwyno hysbysebion sy'n fwy perthnasol
i chi a'ch diddordebau. Maent hefyd yn cael eu defnyddio i gyfyngu
ar y nifer o weithiau y byddwch yn gweld hysbyseb ac yn helpu i
fesur effeithiolrwydd yr ymgyrch hysbysebu. Fel rheol maent yn cael
eu gosod gan rwydweithiau hysbysebu gyda chaniatâd gweithredwyr y
wefan. Maen nhw'n cofio eich bod chi wedi ymweld â gwefan ac mae'r
wybodaeth hon yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill, fel
hysbysebwyr. Yn aml iawn, bydd cwcis targedu neu hysbysebu'n cael
eu cysylltu â swyddogaeth safle a ddarperir gan sefydliad
arall.
Rhestr o gwcis a ddefnyddir yng ngwefan Chwaraeon Cymru:
Isod ceir rhestr o'r cwcis a ddefnyddir yn ein safle, gan
gynnwys eu henw, pryd maent yn dod i ben, y math o gategori a
disgrifiad byr o'r
cwci.
Sylwer: Nid ydym yn defnyddio unrhyw gwcis categori 4
(hysbysebu) yn ein
safle.
|
Grŵp y cwci
|
Google Analytics (dadansoddi gwefannau)
|
|
Enw'r cwci
|
_utma, _utmb, _utmc, _utmz
|
|
Disgrifiad
|
Defnyddir gan Google Analytics i wahaniaethu rhwng ymwelwyr
unigryw ac ymwelwyr sy'n dychwelyd. Dim ond ar gyfer ein cyfleuster
dadansoddi y defnyddir y cwci yma, er mwyn helpu i fesur traffig a
gwella safon y cynnwys/gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn ein
gwefan.
|
|
Yn dod i ben mewn
|
UTMA: 2 flynedd / UTMB: 30 munud / UTMC: Heb ei bennu - clirio
wrth gau'r porwr (cwci sesiwn) / UTMZ: 6 mis
|
|
Categori
|
Categori 2 -Cwcis Perfformiad
|
|
Grŵp y cwci
|
Google Maps (3ydd Parti)
|
|
Enw'r cwci
|
NID a PREF
|
|
Disgrifiad
|
Rhoddir nodweddion adnabod unigryw i bob cyfrifiadur i alluogi
dadansoddi traffig i Google Maps.
|
|
Yn dod i ben mewn
|
6 mis
|
|
Categori
|
3ydd Parti (2: Cwci Perfformiad)
|
|
Grŵp y cwci
|
Share This (3ydd Parti)
|
|
Enw'r cwci
|
_unam, _utmz, _stid, _uset, _utma, _utmb,
_utmc
|
|
Disgrifiad
|
Rhoddir nodweddion adnabod unigryw i bob
cyfrifiadur i alluogi dadansoddi traffig i ShareThis.
Nid yw'n ymddangos bod y rhain yn cynnwys unrhyw
wybodaeth bersonol ac nid ydynt yn cael eu defnyddio'n uniongyrchol
gan Chwaraeon Cymru.
Mae ShareThis yn cynnwys dolen yn y naidflwch
sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis "Do not track", sy'n dileu cwcis
yn ôl yr angen:
http://sharethis.com/privacy
|
|
Yn dod i ben mewn
|
9 mis, 6 mis, 1 flwyddyn, heb ei bennu erioed, 2
flynedd, 30 munud, heb ei bennu
|
|
Categori
|
3ydd Parti (3: Cwci
Swyddogaethol)
|
|
Grŵp y cwci
|
Share This (3ydd Parti)
|
|
Enw'r cwci
|
.scorecardresearch.com UID,
.scorecardresearch.com UIDR
|
|
Disgrifiad
|
Cwcis ychwanegol sy'n cael eu creu gan ShareThis
- defnyddir gan ShareThis i ddadansoddi pa mor fawr yw eu
cynulleidfa.
Mae'r rhain yn perthyn i system 3ydd parti y mae
ShareThis yn ei defnyddio ar hyn o bryd i ddadansoddi defnydd eu
cynulleidfa. Nid ydynt yn tracio/storio data
personol.
Mae ShareThis yn cynnwys dolen yn y naidflwch
sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis "Do not track", sy'n dileu cwcis
yn ôl yr angen:
http://sharethis.com/privacy
|
|
Yn dod i ben mewn
|
2 flynedd
|
|
Categori
|
3ydd Parti (3: Cwci Swyddogaethol)
|
|
Grŵp y cwci
|
Twitter (3ydd
Parti)
|
|
Enw'r cwci
|
Guest_id, k
|
|
Disgrifiad
|
Defnyddir gan Twitter i weld a yw defnyddiwr
wedi mewngofnodi (ai peidio) i Twitter - yna mae'n dangos botwm
"Follow" neu "UnFollow" ar y dudalen.
Nid yw'n weithredol ar hyn o bryd yn safle
Chwaraeon Cymru.
|
|
Yn dod i ben mewn
|
2 flynedd
|
|
Categori
|
3ydd Parti (3: Cwci Swyddogaethol)
|
|
Grŵp y cwci
|
Umbraco CMS (ein gwefan)
|
|
Enw'r cwci
|
ASP.NET_SessionId
|
|
Disgrifiad
|
Cwci sesiwn. Hanfodol - rhan safonol o
Umbraco - nid yw'n cofnodi unrhyw fanylion ac felly
does dim risg.
|
|
Yn dod i ben mewn
|
Heb ei bennu - clirio wrth gau'r porwr
|
|
Categori
|
Categori 1: Cwcis Cwbl Angenrheidiol
|
|
Grŵp y cwci
|
Swyddogaethol Chwaraeon
Cymru
|
|
Enw'r cwci
|
Lang
|
|
Disgrifiad
|
Defnyddir i storio dewis o iaith (Cymraeg neu
Saesneg) yn y wefan - cwci parod i'r system ac mae'n dod â thudalen
iaith berthnasol yn ôl ar gyfer pob darn o
gynnwys.
Hanfodol i ddarparu opsiynau iaith yng ngwefan
Chwaraeon Cymru.
|
|
Yn dod i ben mewn
|
1 mis
|
|
Categori
|
Categori 3: Cwcis Swyddogaethol
|
|
Grŵp y cwci
|
Swyddogaethol Chwaraeon
Cymru
|
|
Enw'r cwci
|
My SCW
|
|
Disgrifiad
|
Pan mae defnyddiwr yn mewngofnodi i
FyChwaraeonCymru, mae'r cwci MySCW yn cael ei chreu i gofnodi ei
fod wedi mewngofnodi.
Cwci sesiwn sy'n hanfodol i ddarparu cyfleuster
"mewngofnodi" i
FyChwaraeonCymru.
|
|
Yn dod i ben mewn
|
Heb ei bennu - clirio wrth gau'r porwr
|
|
Categori
|
Categori 3: Cwcis Swyddogaethol
|
Sut mae rheoli/analluogi cwcis o'ch gwefan?
Nid yw'n ofynnol i chi dderbyn cwcis er mwyn gweld ein gwefan a
gallwch addasu eich porwr fel nad yw'n derbyn cwcis. Mae'r rhan
fwyaf o'r porwyr ar gyfrifiaduron, ffonau clyfar a dyfeisiadau
eraill sy'n gallu mynd ar y we wedi'u gosod fel rheol i ganiatáu
cwcis yn ddiofyn. Os byddwch chi'n dewis rhwystro pob cwci, efallai
na fydd rhannau o wefan Chwaraeon Cymru yn gweithio'n iawn i
chi.
Os ydych chi'n dymuno newid neu analluogi eich dewisiadau cwcis
neu gael gwybod pan mae cwci'n cael ei gosod ar gyfer y wefan hon
neu unrhyw safle arall, gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio
gosodiadau eich porwr. Mae pob porwr yn wahanol, felly edrychwch yn
newislen "Help" eich porwr i ddysgu sut mae newid eich dewisiadau
cwcis. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gymell neu rwystro cwcis ar
borwyr amrywiol yn y wefan All
about cookies.
Share This
Cewch ragor o wybodaeth am y cwcis Share This ac
opsiwn i'w hanalluogi gan ddefnyddio'r ddolen hon: http://sharethis.com/privacy
Google Analytics
Mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth
dadansoddi a ddarperir gan Google, Inc ("Google"), i ddadansoddi'r
defnydd o'n gwefan.
Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwcis Google Analytics (gan
gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i Google a'i
storio ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn
defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn gwerthuso eich defnydd o'r wefan,
gan lunio adroddiadau ar weithgarwch gwefannau ar gyfer
gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill perthnasol i
weithgarwch gwefannau a defnydd o'r rhyngrwyd.
Hefyd, efallai bydd Google yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i
drydydd partïon lle bo angen gwneud hynny'n gyfreithlon, neu bydd
trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Ni
fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a
gedwir gan Google.
Bydd Google yn storio'r wybodaeth hon. Am ragor o wybodaeth
edrychwch ar bolisi preifatrwydd
Google. Os ydych chi'n dymuno peidio â chael eich tracio, maent
yn darparu cyfleuster i atal tracio ym mhob safle sy'n defnyddio
Google Analytics yn eu Safle porwr atal
tracio.
Hysbysu am newidiadau
O dro i dro, gallwn wneud newidiadau i'n polisi cwcis. Gall hyn
fod mewn cysylltiad â newidiadau yn y gyfraith, arferion gorau,
newidiadau i'n gwasanaethau neu sut rydym yn trin eich gwybodaeth
bersonol. Byddwn bob amser yn dangos yn glir ar y dudalen hon pryd
cafodd y polisi cwcis ei ddiweddaru ddiwethaf.
Diweddarwyd ddiwethaf: 8fed Mehefin 2012