Cyhoeddiadau

Dewiswch y flwyddyn | 2012 | 2011 | 2010 | 2009 | 2008 | 2007 |



2012

Agweddau at Chwaraeon Ysgol.  Tachwedd 2012
Mae'r papur byr hwn yn crynhoi darganfyddiadau'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol a'r ymchwil ansoddol ategol i agweddau pobl ifanc at chwaraeon ysgol.

Segmentu Pobl: gwahaniaethau rhwng ardaloedd. Mefehin 2012.

Gwahaniaethau rhwng ardaloeddMae'r papur byr hwn yn cyflwyno'r gwahaniaethau rhwng proffiliau segmentu pobl rhanbarthau ac awdurdodau lleol Cymru.

Arolwg 2011 ar Chwaraeon Ysgol : Cyflwr y Genedl. Ebrill 2012.

Cynhaliwyd yr Arolwg cyntaf ar Chwaraeon Ysgol yn nhymor yr haf 2011. Gan adeiladu ar ugain mlynedd o arolygon gan Chwaraeon Cymru ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon, a'r ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion, mae data'r arolwg hwn yn galluogi i ni a'n partneriaid fonitro'n strategol a chofnodi'r tueddiadau mewn Addysg Gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol, gan ddarparu sylfaen ar gyfer seilio polisïau ac arferion chwaraeon arni.

Clybiau ffyniannus: tystiolaeth i gefnogi'r Strategaeth Gymunedol ar gyfer Chwaraeon. Ebrill 2012.

Er mwyn cynyddu nifer eu haelodau, bydd rhaid i glybiau chwaraeon weithio gyda sylfaen ehangach o gyfranogwyr: mwy o ferched a genethod, mwy o bobl o raddau cymdeithasol 'is', mwy o bobl sy'n chwilio am gyfleoedd hamdden i gymryd rhan mewn chwaraeon, a mwy o gyfranogwyr y tu hwnt i'r mwyaf abl.

Yn y crynodeb ymchwil hwn, rydym yn edrych ar sut gall hyn fynd yn groes i nodau cyfredol y clybiau, ac yn datgan bod rhaid wrth gefnogaeth leol wedi'i chydlynu'n well os ydym ni am gyflawni ein dyhead o ddatblygu clybiau mwy, cryfach a ffyniannus.

Penderfyniadau lleol: tystiolaeth i gefnogi'r Strategaeth Gymunedol ar gyfer Chwaraeon. Ebrill 2012.

Pan maen nhw yn yr ysgol, mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn mynegi galw am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond erbyn iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion, bydd mwy na'u hanner wedi rhoi'r gorau i alw am chwaraeon o unrhyw fath. Os ydym ni am gyflawni ein dyhead o gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes, ni fydd hyn yn ddigon i fodloni'r galw presennol.

Rydym yn dadlau yn y crynodeb ymchwil hwn mai dim ond drwy ddatganoli strwythurau chwaraeon Cymru y gallwn ni gyflawni ein dyhead o gael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes, a thrwy fynd â'r gwaith o wneud penderfyniadau'n nes at y cymunedau amrywiol, a meithrin dyhead i gymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith pawb yng Nghymru.

Addysg safonol: tystiolaeth i gefnogi'r Strategaeth Gymunedol ar gyfer  Chwaraeon. Ebrill 2012.

Yn y crynodeb hwn, rydym yn datgan her i'r sector chwaraeon yng Nghymru wrth i ni geisio cael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes. Gan ddefnyddio'r data o'r arolwg diweddar, sefArolwg 2011 ar Chwaraeon Ysgol,rydym yn dangos bod y mwynhad a geir o Addysg Gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol yn dirywio wrth i bobl ifanc symud i'r ysgol uwchradd, yn enwedig ymhlith y merched, ac o ganlyniad ceir gostyngiad yn y cyfraddau cymryd rhan. Yn y cyfamser, cred y rhan fwyaf o athrawon bod angen ymroi mwy o amser i AG er mwyn darparu'r addysg safonol sy'n ofynnol.

Gweithlu ymroddedig: tystiolaeth i gefnogi'r Strategaeth Gymunedol ar gyfer Chwaraeon. Ebrill 2012.

Rydym yn gwybod bod gwirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant parhaus chwaraeon Cymru. Mae'r her o recriwtio'r gweithlu rydym ni ei angen i gyflawni amcanion y Strategaeth Chwaraeon Cymunedolyn un anodd, er hynny. Yn y crynodeb hwn, rydym yn dangos
bod y gweithlu presennol yn cael ei reoli ar bob lefel gan ddynion, bod rhaid i chwaraeon fod yn fwy rhagweithiol o ran estyn allan at wirfoddolwyr posibl a bod angen gweithlu gyda gwell ffocws ar gwsmeriaid er mwyn diwallu anghenion y cyfranogwyr.

Cyfleusterau priodol: tystiolaeth i gefnogi'r Strategaeth Gymunedol ar gyfer Chwaraeon. Ebrill 2012.

Mae cyfleusterau yn elfen allweddol o ysbrydoli cyfranogwyr a chreu cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn gyffredinol, mae gan Gymru ystod dda o ddarpariaeth o ran cyfleusterau adeiledig, a rhwydwaith rhagorol o gyfleusterau cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â chyfleusterau naturiol gwych ar gyfer chwaraeon. Fodd bynnag, mae nifer o gyfleusterau'n tynnu at ddiwedd eu hoes ac nid ydynt yn bodloni disgwyliadau'r defnyddwyr.

Mae'r crynodeb ymchwil hwn yn datgan goblygiadau hyn i gyllidebau awdurdodau lleol sydd o dan bwysau, sut mae awdurdodau'n ceisio rheoli eu cyfleusterau a'r angen am well rhaglennu a chyfleusterau cryfach i gefnogi clybiau chwaraeon.

Tlodi Plant: crynodeb ymchwil. Ebrill 2012.

Mae'r crynodeb ymchwil hwn yn dangos bodtlodi o ran dyheadauyn bodoli ymhlith pobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig. Nid yn unig maen nhw'n llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon (yn arbennig mewn clybiau chwaraeon), ond hefyd maen nhw'n llai tebygol o fynegi galw am y rhan fwyaf o chwaraeon ac yn llai tebygol o fod â phobl o'u hamgylch sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon.

Tystiolaeth i gefnogi'r Strategaeth Gymunedol ar gyfer Chwaraeon. Ebrill 2012.

Fis Rhagfyr 2011, comisiynodd Chwaraeon Cymru ymarfer ymgynghori i randdeiliaid i edrych ar y pum maes blaenoriaeth allweddol a gafodd eu datgan yn y strategaeth ddrafft. Gwnaed y gwaith hwn gan Brightpurpose Consulting, i ategu'r gweithgarwch ymgynghori ehangach a wneir gan Chwaraeon Cymru.

Hefyd yn yr ymarfer ymgynghori roedd cyfres o grwpiau ffocws i edrych ar y materion y mae clybiau a gwirfoddolwyr chwaraeon yn eu hwynebu wrth ddatblygu a chynnal clybiau chwaraeon ledled Cymru.

 

2011

Mentro Allan: Profiadau Byw o Weithgarwch Corfforol yn yr Awyr agored. Gorffennaf 2011.

Nod y rhaglen Mentro Allan oedd dysgu am y ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi pobl segur i ddatblygu'r arfer o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn yr amgylchedd naturiol. Mae'r prosiect wedi bod ag ystod o grwpiau targed: pobl ifanc, pobl hŷn, merched, cymunedau DLlE (Du a Lleiafrifoedd Ethnig), pobl ag anableddau corfforol, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, gofalwyr, pobl mewn perygl o ddioddef o ynysu cymdeithasol, pobl ar incwm isel.  

Comisiynwyd grŵp ymchwil o Brifysgol Caerfaddon a'r Athrofa Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned gan Bartneriaeth Genedlaethol Mentro Allan, o dan arweiniad Chwaraeon Cymru, i gynnal ymchwil manwl i'r rhaglen yn ystod ei dwy flynedd olaf. Mae'r adroddiad yn edrych ar sut gall pobl ddod yn fwy egnïol a sut gall sefydliadau eu cefnogi i gyflawni hyn, a hefyd effaith lleoliad awyr agored gweithgareddau ar gyfranogiad a phrofiadau'r cyfranogwyr. 

Arolwg 2009 ar Bobl Ieuainc Egnïol: prif ganlyniadau. Mawrth 2011.
Arolwg 2009 ar Bobl Ieuainc Egnïol: cwestiynau a holir yn aml. Mawrth 2011.

Cynhaliwyd arolwg 2009 gan Wavehill Consulting, ar y cyd â'r on Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol (NatCen) a Snap Surveys. Gwnaed y gwaith maes rhwng misoedd Mehefin a Gorffennaf 2009.  Gwahoddwyd pob ysgol a gynhelir yng Nghymru i gymryd rhan a gofynnwyd i ddisgyblion o bob grŵp blwyddyn gwblhau'r holiadur. Roedd yr arolwg yn rhoi sylw i Flynyddoedd 3-6 mewn ysgolion cynradd a blynyddoedd 7-11 mewn ysgolion uwchradd.

Cwblhaodd mwy na 15,000 o ddisgyblion yr arolwg, o 416 o ysgolion ledled Cymru. Roedd 8,093 o ysgolion cynradd a 7,098 o ysgolion uwchradd. Cymerodd 84 o ysgolion uwchradd ran (38% allan o gyfanswm yr ysgolion uwchradd yng Nghymru) a 328 o ysgolion cynradd (24%).

Gweithgarwch Corfforol, Chwaraeon Allgyrsiol a'r Fenter '5x60': Ffyrdd o Fyw Hamdden a Phobl Ifanc yng Nghymru, 2007-2009. Mawrth 2011.

Cyllidodd Chwaraeon Cymru fwrsari PhD mewn partneriaeth ag Ysgol Chwaraeon Caerdydd, APCC (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd bellach) i ymgymryd ag ymchwil i brofiadau pobl ifanc ar y rhaglen 5x60 i ysgolion uwchradd.                            

Daeth pedair thema ddamcaniaethol i'r amlwg o'r ymchwil, a wnaed gan Anna Leyshon: dull o weithio'n canolbwyntio ar bobl ifanc; ffordd o fyw hamdden pobl ifanc; cymysgedd y bobl ifanc; a rhyw. Hefyd, roedd dwy thema weithredol amlwg; y cyswllt ymdeithasol â'r swyddog a phrofiad y clwb / gweithgaredd. Roedd dylanwad y rhan i gyd yn amrywiol yn ôl y grŵp o bobl ifanc; effaith dalgylch yr ysgol; a nodweddion unigol (yn benodol, effaith ysgol cyfrwng Cymraeg).     

Menter '5x60': Astudiaethau Achos Enghreifftiol    

Wrth gynnal yr ymchwil hwn gyda phobl ifanc, daeth saith astudiaeth achos hynod ddiddorol i'r amlwg, yn tynnu sylw at un neu fwy o nodau '5x60', sef:  

1) Darparu cyfleoedd allgyrsiol ychwanegol mewn gweithgarwch corfforol drwy dargedu'r rhai nad ydynt yn ymwneud â chwaraeon ysgol, chwaraeon tîm yn yr ysgol a/neu AG ar hyn o bryd;                

2) Recriwtio, cefnogi a dal gafael ar wirfoddolwyr h.y., rhieni, a datblygu arweinwyr ifanc, a;

3) Sefydlu partneriaethau gyda'r gymuned, clybiau lleol a cholegau addysg bellach / uwch (CChC 2006)

Mae'r astudiaethau achos hyn yn cyflwyno straeon unigol / grŵp sy'n tynnu sylw at ble cyflawnwyd y nodau hyn, gan helpu i ddangos rhai o faterion a phrofiadau penodol y rhaglen.  

Gweithgarwch corfforol yn y gweithle yng Nghymru: adroddiad gwerthuso terfynol. Mawrth 2011.    

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno darganfyddiadau ein gwerthusiad o fentrau gweithgarwch corfforol yn y gweithle yng Nghymru, a gyllidwyd gan ein Cronfa ar gyfer Her y Gweithleoedd Egnïol. Nod y gwerthusiad oedd dangos effeithiolrwydd y rhaglen o ran cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith cyflogeion, a gwella ein dealltwriaeth o'r potensial i fentrau o'r fath effeithio ar lefelau gweithgarwch corfforol oedolion Cymru yn gyffredinol.                                                        

Gweithgarwch corfforol yn y gweithle yng Nghymru: canllaw i ymarferwyr. Mawrth 2011.    

Ochr yn ochr â'r adroddiad gwerthuso, lluniwyd canllaw gennym ar gyfer y rhai sy'n anelu at ddatblygu mentrau gweithgarwch corfforol yn eu gweithle. Mae'r canllaw yn cyflwyno cyngor ymarferol ar gyfer pob cam o ddatblygiad prosiect, yn ogystal â chyngor penodol ar gyfer gwahanol fathau o ymyriadau.           

Amledd a diddordeb mewn mentrau chwaraeon a hamdden gorfforol yn y gweithle yng Nghymru. Chwefror 2011.

Ochr yn ochr â darganfyddiadau interim y gwerthusiad o fentrau gweithgarwch corfforol yn y gweithle yng Nghymru, cyllidwyd arolwg gennym ar oedolion Cymru er mwyn asesu'r darlun cyffredinol yng Nghymru. Yn yr adroddiad hwn rydym yn sefydlu i ba raddau y mae cyfleoedd yn bodoli i weithwyr gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol yn y gweithle a pha fath o bobl sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan. Rydym hefyd yn edrych ar y potensial i weithgarwch yn y gweithle gynyddu cyfranogiad, ac yn ymchwilio i'r rhwystrau sy'n atal cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath.        

Gwerth Gwirfoddoli mewn Chwaraeon yng Nghymru. Ionawr 2011.

Mae'r papur ymchwil byr hwn yn datgan gwerth economaidd gwirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru.

 

2010

Gwirfoddoli mewn Chwaraeon yng Nghymru: crynodeb ymchwil. Medi 2010.

Gan ddod â darganfyddiadau Arolwg 2008-09 ar Oedolion Egnïol at ei gilydd, a'r astudiaeth ansoddol ddilynol, sef 'Gwirfoddoli mewn Chwaraeon yng Nghymru', a gynhaliwyd yn gynnar yn 2010, cafodd proffil presennol y gweithlu chwaraeon gwirfoddol yng Nghymru ei greu: pwy ydyn nhw, beth maen nhw'n ei wneud, a pham maen nhw'n ei wneud. Rydyn ni hefyd yn ystyried pam a sut maen nhw wedi dechrau gwirfoddoli a beth gallwn ni ei wneud i ddenu mwy o bobl at wirfoddoli mewn chwaraeon.

Y Galw am Ddarpariaeth Chwaraeon Cyfrwng Cymraeg Ymhlith Oedolion. Medi 2010.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn asesu'r galw ymhlith oedolion yng Nghymru am weithgareddau chwaraeon a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pwysigrwydd cymharol iaith yn ansawdd profiad cyffredinol y cyfranogwyr yn cael ei ystyried, ochr yn ochr â materion ymarferol yn ymwneud â'r ddarpariaeth o hyfforddiant, marchnata a safbwyntiau pobl ddi-Gymraeg.   

Adolygiad o Gampau'r Ddraig. Awst 2010.

Menter gan Chwaraeon Cymru yw Campau'r Ddraig a'i nod yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7-11 oed, y tu allan i gwricwlwm yr ysgol ac yn y gymuned. Comisiynwyd Arad Consulting i gynnal adolygiad o'r rhaglen pan oedd yn dathlu ei phen blwydd yn 10 oed. Mae'r adolygiad yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd drwy ymgynghoriadau a chyfweliadau lled-strwythuredig gydag athrawon, Cydlynwyr Campau'r Ddraig, Rheolwyr Datblygu Chwaraeon a swyddogion Cyrff Rheoli Cenedlaethol.

Adolygu Cytundebau Partneriaeth yr Awdurdodau Lleol. Awst 2010.

Fis Hydref 2009, comisiynwyd adolygiad o Cytundebau Partneriaeth yr Awdurdodau Lleol (CPALl), er mwyn asesu'r dull o weithredu'r broses hyd yma, ac yn sail ar gyfer datblygu perthynas CPALl yn y dyfodol â chyfarwyddiadau polisi, a chynyddu hyblygrwydd ar gyfer gwneud penderfyniadau'n lleol. Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yr adolygiad ar ein rhan.

Gwirfoddoli mewn Chwaraeon yng Nghymru. Mai 2010.

Sut mae cael mwy o bobl i wirfoddoli mewn chwaraeon? Yn seiliedig ar gyfweliadau gyda mwy na 100 o hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, cyfranogwyr ac eraill gyda diddordeb mewn bod yn wirfoddolwyr, mae'r adroddiad hwn yn edrych ar pam fod pobl yn dewis gwirfoddoli, y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu wrth wneud hynny, a sut gellir eu cefnogi i wella eu profiadau, a hefyd profiadau'r cyfranogwyr.

Arolwg 2008-09 ar Oedolion Egnïol: Prif Ganlyniadau. Mawrth 2010.
Arolwg 2008-09 ar Oedolion Egnïol: Prif Ganlyniadau fesul Camp. Mawrth 2010.

Mae'r adroddiadau hyn yn datgan y darganfyddiadau allweddol o Arolwg 2008-09 ar Oedolion Egnïol, gan roi sylw i dueddiadau cyffredinol mewn cyfranogiad, aelodaeth o glybiau chwaraeon a gwirfoddoli ymhlith oedolion Cymru.  

Y Ddarpariaeth AG yn Ysgolion Cymru 2008/2009: Prif Benawdau. Mawrth 2010.
Y Ddarpariaeth AG yn Ysgolion Cymru: Cyfnod Ansoddol. Mawrth 2010.

Mae'r Arolwg ar y Ddarpariaeth Addysg Gorfforol yn monitro'r gwaith o gyflwyno addysg gorfforol a chwaraeon yn ysgolion Cymru, gan ddarparu cyfoeth o ddata am dueddiadau sy'n ein helpu i fonitro cynnydd a chanfod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Gofynnir i bob ysgol a gynhelir, ac eithrio ysgolion arbennig, gymryd rhan yn yr arolwg bob dwy flynedd. Cwblheir yr arolwg gan Gydlynwyr AG mewn ysgolion cynradd a chan y Penaethiaid AG mewn ysgolion uwchradd.

Mae'r papur hwn yn cyflwyno darganfyddiadau'r ymchwil yn seiliedig ar y prif fesurau a ganlyn: yr amser a neilltuir ar gyfer AG yn y cwricwlwm; yr amser allgyrsiol a ddarperir gan athrawon; y chwaraeon a'r gweithgareddau a gynigir.

I ddeall y materion cysylltiedig â darparu Addysg Gorfforol (AG) a chwaraeon yn ysgolion Cymru yn well, comisiynodd Chwaraeon Cymru astudiaeth ansoddol o Benaethiaid AG mewn ysgolion uwchradd a Chydlynwyr AG mewn ysgolion cynradd. Roedd y themâu'n cynnwys: darparu AG a chwaraeon allgyrsiol a phwysigrwydd cymharol hynny i ysgolion, a hefyd cyfleusterau a gwerth y Canolfannau Datblygu AG a Chwaraeon Ysgol (AGChY).

Gweithgarwch corfforol yn y gweithle yng Nghymru: adolygiad o lenyddiaeth. Ionawr 2010.

Fel rhan o'i raglen i werthuso mentrau gweithgarwch corfforol yn y gweithle yng Nghymru, comisiynodd Chwaraeon Cymru 'adolygiad ymbarél' o lenyddiaeth, i gasglu tystiolaeth am effeithiau mentrau yn y gweithle ar iechyd a gweithgarwch corfforol ymhlith cyflogeion.                 

 

2009

Gwerthusiad o Brosiectau Datblygu Chwaraeon Peilot drwy gyfrwng y Gymraeg. Tachwedd 2009.

Mae datblygu gweithgareddau chwaraeon dwyieithog newydd yn galw am weithio ar y cyd. Yn yr adroddiad hwn rydym yn manylu ar ddarganfyddiadau tri phrosiect peilot sy'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i gyflwyno cyfleoedd newydd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon yn ddwyieithog.

Cyfranogiad Pobl Ieuainc mewn Chwaraeon. Medi 2009.

Mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal arolygon bob dwy flynedd ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ieuainc rhwng 11 a 16 oed mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru er 1999. Mae'r arolwg yn fodd o fonitro'r cynnydd hwn a gall ddynodi bylchau lle mae angen mwy o sylw. Cyflwynir canlyniadau'r arolwg diweddaraf, a gynhaliwyd yn hydref 2006, yn yr adroddiad hwn.

Rhwydo Enillydd.  Medi 2009.

Canllaw arfer da'n holi plant a phobl ieuainc am chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac yn delio â ffyrdd o holi plant ar-lein.  

Cyfranogiad Oedolion mewn Chwaraeon. Awst 2009.

Nod y cyhoeddiad hwn yw edrych yn fras ar ganlyniadau'r Arolwg Ar Gyfranogiad Oedolion, yn cynnwys: lefelau cymryd rhan; aelodaeth o glybiau chwaraeon; lefelau'r gweithgarwch corfforol cysylltiedig ag iechyd; y rhwystrau'n atal cymryd rhan; cyfraddau cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden heb gysylltiad â chwaraeon a gwirfoddoli mewn chwaraeon.

Adolygiad systematig o'r Llenyddiaeth ar Gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig mewn Chwaraeon a Hamdden Gorfforol. Gorffennaf 2009.

Mae ymrwymiad Cynghorau Chwaraeon y DU i sicrhau cyfleoedd cyfartal mewn chwaraeon a hamdden gorfforol ym mhob grŵp mewn cymdeithas wedi'i adlewyrchu yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu Safon Cydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon a mentrau eraill i annog cyrff rheoli ac asiantaethau cyflwyno eraill i roi sylw i anghydraddoldeb a hybu cyfranogiad a hynnwys.                                  

Er mwyn bod yn sail i'w polisïau a'u harferion yn y maes hwn, gwahoddwyd Sefydliad Ymchwil Carnegie i gynnal adolygiad annibynnol o'r hyn a wyddir am gyfranogiad mewn chwaraeon a hamdden gorfforol gan gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig (DLlE) yn y Deyrnas Unedig, ac i ddatgan sut i ymestyn a gwella'r cyfleoedd i gymryd rhan ar gyfer y cymunedau hyn. Comisiynwyd yr adolygiad gan Chwaraeon Cymru ochr yn ochr â Chynghorau Chwaraeon eraill y DU a Sporting Equals.

 

2008

Rhannu'r Farchnad: Gwahaniaethau Rhanbarthol. Rhagfyr 2008.

Yn cyflwyno crynodeb o'r proffil rhannu'r farchnad ym mhob un o'r tair ardal ranbarthol ble ceir swyddfeydd Chwaraeon Cymru. Mae'r dadansoddiad yn manylu ynghylch y gwahaniaethau rhwng ardaloedd yr awdurdodau lleol, yn ogystal â'r patrymau eang yn yr awdurdodau lleol ac ar draws eu ffiniau.

Effaith Economaidd Chwaraeon yng Nghymru. Hydref 2008.

Nod y cyhoeddiad hwn yw darparu 'cipolwg' ar swyddogaeth ac arwyddocâd chwaraeon yng Nghymru ac mae'n crynhoi'r dangosyddion allweddol ar gyfer pwysigrwydd economaidd chwaraeon yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu rhywfaint o ddata tueddiad o'r arolygon blaenorol, ynghyd â chymariaethau â'r DG.

Cyfranogiad Plant Mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yn 2006. Mawrth 2008.

Dyma'r seithfed mewn cyfres o arolygon yn ceisio monitro cyfranogiad pobl ieuainc 11 - 16 oed yn ysgolion uwchradd Cymru mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r arolwg hwn yn gyfrwng i fonitro cynnydd a gall ddynodi'r bylchau yn y ddarpariaeth, lle mae angen mwy o sylw. Cyflwynir canlyniadau'r arolwg diweddaraf yn yr adroddiad hwn ac maent yn rhoi sylw i weithgareddau cwricwlaidd, gweithgareddau allgyrsiol, chwaraeon ysgol a chystadlaethau, a defnydd i glybiau chwaraeon a chanolfannau hamdden.

 

2007

Genethod yn Gyntaf: Chwaraeon Ysgolion Uwchradd i Enethod. Mawrth 2007.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi darganfyddiadau gwerthusiad parhaus o'r rhaglen Genethod yn Gyntaf. Mae'n trafod y rhesymeg dros Genethod yn Gyntaf ac yn edrych ar dystiolaeth arolygon Cyngor Chwaraeon Cymru a gwaith ymchwil arall, i ddangos y bwlch rhwng y rhywiau mewn cyfranogiad allgyrsiol gan fechgyn a genethod.

Y Ddarpariaeth AG mewn Ysgolion Cynradd. 2007.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno darganfyddiadau'r pedwerydd astudiaeth o addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd ledled Cymru, yn seiliedig ar y ddarpariaeth yng Nghyfnod Allweddol 2 yn ystod blwyddyn academaidd 2004/05. Ymhlith y materion sy'n cael sylw mae'r adnoddau a'r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer AG gwricwlaidd, y gweithgareddau a gynigir fel rhan o'r cwricwlwm AG, argaeledd a safon tybiedig y cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgolion a'r adnoddau ar gyfer cyflwyno darpariaeth AG allgyrsiol.    

Y Ddarpariaeth AG mewn Ysgolion Uwchradd. 2007.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno darganfyddiadau'r wythfed mewn cyfres o arolygon yn casglu gwybodaeth am y ddarpariaeth chwaraeon yn ysgolion uwchradd Cymru. Ymhlith y materion sy'n cael sylw mae'r adnoddau a'r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer AG gwricwlaidd, y gweithgareddau a gynigir fel rhan o'r cwricwlwm AG, argaeledd a safon cyfleusterau chwaraeon yr ysgolion, y ddarpariaeth AG allgyrsiol a'r ddarpariaeth o arholiadau mewn AG.