Beth rydym yn ei wneud

Amcan cyffredinol gwaith ymchwil Chwaraeon Cymru yw darparu tystiolaeth o safon uchel am faterion, prosesau a chanlyniadau'n sail ar gyfer datblygu a chyflwyno polisïau perthnasol i chwaraeon yng Nghymru.

Mae gan Chwaraeon Cymru hanes maith o hybu a chynnal ymchwil; mae'n swyddogaeth graidd yn ein sefydliad.

Mae gennym dair egwyddor sylfaenol ar gyfer ein gwaith ymchwil, sef:

  • Adlewyrchu ar (a herio) blaenoriaethau strategol Chwaraeon Cymru;
  • Cynnal y safonau uchaf er mwyn sicrhau bod canlyniadau pob gwaith ymchwil yn gredadwy a bodd modd eu hamddiffyn;
  • Adlewyrchu ar weledigaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer cydraddoldeb.

Mae cyfeiriad strategol ein hymchwil yn cael ei ddatgan gan Chwaraeon Cymru yn ei Strategaeth Ymchwil. Rydym wedi adeiladu ar brofiad ymchwil y deng mlynedd ar hugain diwethaf yn Chwaraeon Cymru ac mae'r Strategaeth yn adlewyrchu'r blaenoriaethau polisi cyfredol a rhagdybiol, a'r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ar gyfer datblygu, cyflwyno a phrofi chwaraeon yng Nghymru.

Drwy gyfrwng y strategaeth, rydym yn ymateb i'r angen am gryfhau'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn chwaraeon ar bob lefel, ac yn ceisio sefydlu fframwaith cydlynol ar gyfer ymchwil sy'n rhagweithiol a hefyd yn adweithiol mewn perthynas â'r agenda polisi cymdeithasol ehangach.

Mae ein gwaith wedi cael ei osod mewn wyth categori allweddol:

1. Monitro Strategol

Ymchwil i gofnodi tueddiadau mewn chwaraeon yng Nghymru.

2. Dealltwriaeth Strategol

Ymchwil i ddeall natur y cyfranogiad (neu'r diffyg cyfranogiad) yn well.

3. Modelu Strategol

Modelu cyfranogiad: symud ymlaen; fesul grŵp segment a ward.

4. Gwerthuso Rhaglenni a Phrosiectau

Asesu effeithiolrwydd ein buddsoddiad.

5. Ymchwil Weithredol

Gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein busnes.

6. Arwain yr Agenda Ymchwil Chwaraeon

Gwella theori, methodolegau a ffurfio perthnasoedd â sefydliadau academaidd.

7. Ymchwil Gyfathrebu

Drwy gyfrwng cyfryngau amrywiol ac i gynulleidfaoedd amrywiol.

8. Gwybodaeth

Darparu gwybodaeth am chwaraeon: y trafodaethau presennol a'r rhai o'r gorffennol, data am gyfleusterau naturiol ac adeiledig.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith ymchwil, cysylltwch â ni ar:

DOWNLOADS