Arolwg ar Chwaraeon Ysgol

Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 

Arolwg 2013 ar Chwaraeon Ysgol

Mae'r ail Arolwg Cenedlaethol erioed ar Chwaraeon Ysgol ar agor yn awr.         

Yn 2011, cwblhaodd 40,000 yr holiadur ar-lein - yr arolwg mwyaf ar blant, pobl ifanc a chwaraeon yng Nghymru hyd yma.                 

Ymhlith y prif ddarganfyddiadau roedd lefelau'r cyfranogiad mewn clwb ymhlith disgyblion ysgolion cynradd ar y lefel uchaf i'w chofnodi (85%) ers 2000, tra bo'r bwlch rhwng y rhywiau i fechgyn a merched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i'w weld yn cynyddu drwy gydol yr ysgol uwchradd.

Mae gan yr ysgolion a'r awdurdodau lleol sy'n sicrhau digon o ymatebwyr hawl i gael adroddiad personol am ddim ar ganlyniadau eu disgyblion, gyda'r nod cyffredinol o wneud penderfyniadau a gwelliannau'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'n bwysig iawn cofio bod Estyn yn cydnabod yr arolwg fel adnodd effeithiol ar gyfer sichrau tystiolaeth o les yn eu cyfarwyddyd hunanarfarnu i ysgolion. 

Llantwit MajorPennaeth AG Llanilltud Fawr yn siarad am sut a pham mai'r ysgol yw'r gyntaf yng Nghymru i gymhwyso am adroddiad llawn: http://www.youtube.com/watch?v=lH4yaVITIi8   

 

 

 

Isod fe welwch chi ffilm fer gan enillydd medal aur Paralympaidd, yn dweud pam ei bod mor bwysig i ddisgyblion gwblhau'r arolwg. Gellir gweld y ffilm ar You Tube hefyd: http://www.youtube.com/watch?v=uafV4O0cxJ8&feature=youtu.be

Bydd yr arolwg llawn yn weithredol o Ebrill 8fed ymlaen tan ddiwedd tymor yr haf. Bydd yr ysgolion yn derbyn cyfarwyddiadau personol ar gyfer mynd i mewn i'w harolwg eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol a'r manteision i ysgolion a sefydliadau chwaraeon, edrychwch ar y ffilm isod.              

Arolwg 2011

Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ar Chwaraeon Ysgol yn ystod tymor yr haf 2011. Gan adeiladu ar ugain mlynedd o arolygon gan Chwaraeon Cymru ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon, a'r ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion, mae data'r arolwg hwn yn galluogi i ni a'n partneriaid fonitro a chofnodi'n strategol y tueddiadau mewn Addysg Gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol, a darparu sylfaen ar gyfer dylanwadu ar bolisïau ac arferion chwaraeon.                

Yn yr arolwg yn 2011, cwblhaodd bron i 40,000 o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3-11 yr holiadur, gan wneud hwn yr arolwg cenedlaethol mwyaf erioed ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.                                                 

Mae'r prif ystadegau a'r adroddiad ar gyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon ar gael yn awr.  

Tystiolaeth o les      

Mae lles wedi dod yn faes polisi cynyddol bwysig i'r sectorau addysg, iechyd a chwaraeon. Fel y gwyddoch yn sicr, mae fframwaith arolygu ysgolion Estyn yn rhoi lle canolog i les ym mhrofiad dysgu'r disgyblion.    

Er mwyn gwneud yn siŵr bod ein polisïau chwaraeon yn lleol ac yn genedlaethol yn llwyddiannus ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, mae gwrando ar eu barn a'u safbwyntiau'n hollbwysig. Mae'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn ffordd effeithiol o roi llais i ddisgyblion, a galluogi i ni ganfod y bylchau mewn cyfranogiad chwaraeon yng Nghymru.              

Mae hefyd yn hanfodol bod chwaraeon yn deall yn well ac yn hyrwyddo'r cyswllt rhwng chwaraeon a lles ac, yn bwysig iawn i ni yn Chwaraeon Cymru, yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y maes hwn fel rhan o'i pholisiCreu Cymru Egnïol. Mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r arolwg yn llawn.

Mae addysg gorfforol a chwaraeon ysgol yn chwarae rhan hanfodol mewn cyfrannu at les corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion i gyd. Mae'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn cynnig cyfle i helpu ysgolion i ddangos tystiolaeth o sut mae chwaraeon ac addysg gorfforol yn cyfrannu at yr agenda les.       

Cafodd pob ysgol a gwblhaodd yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol gyda sampl digonol o ddisgyblion adroddiad dwyieithog ar eu data. Yn 2011, dosbarthwyd 198 o adroddiadau i ysgolion ledled Cymru. Mae'r adroddiadau wedi'u strwythuro ar sail y pedwar canlyniad lles, fel yr amlinellir gan Estyn: agweddau at gadw'n iach a diogel; cyfranogiad a mwynhad wrth ddysgu; cyfranogiad cymunedol a gwneud penderfyniadau; a sgiliau cymdeithasol a bywyd.