Arolwg ar Oedolion Egnïol
Crynodeb
Mae'r Arolwg yn arolwg bob dwy flynedd ar deuluoedd sydd wedi'i
gomisiynu gennym Chwaraeon Cymru er mwyn mesur lefel y cyfranogiad
mewn clwb, yr aelodaeth o glwb, y gwirfoddoli a'r materion
chwaraeon eraill ymhlith oedolion yng Nghymru.
Yr arolwg yw'r brif ffynhonnell o ddata yng Nghymru am
gyfranogiad chwaraeon, aelodaeth o glybiau chwaraeon a materion
eraill cysylltiedig â chwaraeon ymhlith oedolion (15 oed a hŷn) yng
Nghymru, gan greu darlun unigryw o batrymau'r cyfranogiad mewn
chwaraeon ymhlith oedolion Cymru.
Defnyddir canlyniadau'r arolwg gan sefydliadau partner, yn
cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff rheoli
chwaraeon cenedlaethol yn sail ar gyfer eu cynllunio strategol a'u
gweithrediadau.
Mae'r arolwg yn cynnwys:
- lefelau cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a
hamdden gorfforol;
- aelodaeth o glybiau chwaraeon a chyfranogiad
ynddynt;
- gwirfoddoli mewn chwaraeon;
- cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol;
- defnydd o ganolfannau hamdden a ffitrwydd;
- rhwystrau a chymhelliant ar gyfer cymryd rhan mewn
chwaraeon.
Mae gwybodaeth ddemograffig amrywiol yn cael ei chasglu ar gyfer
ei dadansoddi hefyd, yn cynnwys rhyw, dosbarth cymdeithasol,
oedran, anabledd a strwythur y cartref. Mae'r sampl yn cael ei
haenu hefyd er mwyn gallu dadansoddi ar lefel yr awdurdod lleol ac
i roi sylw i ddosbarthiadau daearyddol eraill hefyd.
Mae'r gwaith maes ar gyfer Arolwg 2012 ar Oedolion
Egnïol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Dull yr arolwg (2008-09)
Dull samplu
Casglodd Arolwg 2008-09 ar Oedolion Egnïol fwy na 22,000 o
ymatebion yn seiledig ar sampl debygolrwydd ar hap gan yr
awdurdodau lleol, ac fe'i cynhaliwyd gan Cello mruk research, ar
ran Chwaraeon Cymru.
Casglwyd o leiaf 1000 o gyfweliadau ym mhob awdurdod lleol yng
Nghymru. Gwnaed gwaith maes dros gyfnod o 12 mis, rhwng 1af Mawrth
2008 a 28ain Chwefror 2009 - er mwyn osgoi unrhyw effeithiau
tymhorol ar y canlyniadau.
Dewiswyd y teuluoedd ar hap i gymryd rhan yn yr ymchwil gan
ddefnyddio'r Ffeil Cyfeiriad Cod Post a luniwyd gan y Post
Brenhinol. Clytyrwyd y dewis ar ffurf Ardal Allbwn (a ddewiswyd ar
hap) er mwyn lleihau'r costau a sicrhau bopd yr arolwg yn un
dibynadwy. Wrth gysylltu â teulu penodol, dewiswyd un oedolyn ar
hap gan ddefnyddio rheol Nesaf i Gael ei Ben Blwydd.
Nid oedd yn orfodol i'r teuluoedd a'r unigolion a ddewiswyd
gymryd rhan yn yr arolwg ac ni chynigiwyd unrhyw gymhelliant iddynt
i wneud hynny. Cysylltwch â'r teuluoedd hyd at 6 gwaith er mwyn
cwblhau cyfweliad.
Dull pwysoli
Pwysolwyd ymatebion Arolwg 2008-09 er mwyn rhoi ystyriaeth i
debygolrwydd o ddewis anghyfartal ac ar gyfer diffyg ymateb
gwahaniaethol, gan ddefnyddio protocol pwysoli tri cham.Mae hyn yn
sicrhau bod dosbarthiad y sampl yn ymateb yn cyfateb i'r boblogaeth
o oedolion a geir yng Nghymru.
Arolygon blaenorol
Cynhaliwyd yr Arolwg gan ddefnyddio dau ddull arall cyn 2008.
Rhwng 1987 a 1998, roedd yr Arolwg yn rhan o Arolwg Omnibws Cymru
Beaufort Research ac fe'i cynhaliwyd mewn pedair ton yn cynnwys
1000 o oedolion bob un, ym mhob chwarter.
Rhwng 1998 a 2005, ehangwyd yr Arolwg er mwyn gallu cofnodi
canlyniadau ar lefel yr awdurdod lleol, gan ddefnyddio sampl cwota
haenog.
Darganfyddiadau allweddol
Dogfennau technegol
Tablau data
- Gwelir y tablau data yn adran Ystadegau yr wefan hon.